Harri Jones – Glanhawr Simdde
Glanhawr Simdde
Proffesiynol yng
Ngogledd Cymru
Mae Harri yn cynnig gwasanaethau glanhau simdde proffesiynol ym mhob ardal o Wynedd, Ynys Môn a Chonwy - gan gynnwys ardaloedd o Gaergybi i Harlech, Dolgellau i Ddeganwy, Aberdaron i Abergele a phob man yn y canol.
Hanes Harri
Harri Jones ydw i, dyn glanhau simdde sydd wedi’i hyfforddi’n llawn a’i ardystio gyda dros 11 mlynedd o brofiad ymarferol.
Dw i’n darparu gwasanaeth glân a dibynadwy y gallwch ymddiried ynddo ac wedi fy achredu gan y National Associateion of Chimney Sweeps (N.A.C.S). Ar ôl cwblhau pob gwaith, rhoddir tystysgrif N.A.C.S i warantu’r gwaith ac i gydymffurfio ag yswiriant.
Dw i’n gweithio ledled Gwynedd, Ynys Môn a phob man yng Ngogledd Cymru, yn gwasanaethu:
- Stofiau coed
- Tanau agored
- Stofiau aml-danwydd
- Stofiau AGA a Rayburn
Os ydach chi angen glanhau eich simdde ffoniwch 07949 010027 – byddaf bob amser yn hapus i helpu.

Gwasanaethau Harri
Glanhau Simdde
Gwaith glanhau taclus a phroffesiynol ar gyfer pob math o simddeau a ffliwiau - gan helpu sicrhau bod eich offer yn gweithio’n dda ac yn ddiogel.
Archwiliadau CCTV
Archwiliadau y tu mewn i’ch simdde gan ddefnyddio camerâu HD i chwilio am rwystrau, difrod neu olion nythu – byddwn yn rhoi adroddiad llawn i chi.
Cowls a Giardiau Adar
Gellir gosod Cowls a Giardiau Adar i atal rhwystrau a nythu os oes angen.
Gwasanaethu Stôf
Gwasanaeth llawn ar y stôf gan gynnwys y seliau rhaff, y gwydr, y brics, a mwy – gan gadw’ch stôf yn rhedeg yn esmwyth.
Pam dewis Harri
i lanhau eich simdde?
• Glanhawr simdde proffesiynol a phrofiadol
• Offer proffesiynol o’r radd flaenaf
• Gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel
• Prisiau cystadleuol
• Busnes teuluol sy’n hollol ddibynadwy
• Glanhawr simdde sydd wedi cofrestru efo NACS
• Cyflwyno Tystysgrif NACS pob tro ar ôl gwasanaethu stôf
• Cymhwyster NACS i gynnal archwiliad ac arolwg CCTV
• Mae’n bosib glanhau gyda phŵer rotari neu lanhau â llaw
• Gosod cowls neu giardiau adar
• Tynnu nythod adar yn ddiogel
• Profiadol gyda stofiau aml-danwydd, stofiau coed, AGAs a Rayburns wedi’u tanio ag olew, tanau agored, a mwy

Tystebau
"The service i recieved by Harri was very professional and friendly, was very respectful and did the job effectively making no mistakes. Will be using his service again most definitely.
Will also add in that he was comfortable speaking in both english and welsh fluently."
"Fabulous service - thorough, efficient & work carried out exercising great care - lovely clean job. Can’t recommend highly enough! Great family business. A great find. Thank you so much."
"Harri Jones is a true expert at his job as chimney sweep, so professional in each and every way. He’s so precise at everything and no task too much, such as replacing fire rope on multi fuel stove and so clean, no soot, dust and no mess. Also so courteous and so respectful of his customers. Highly recommended,
unbeatable and I would 100% definitely give him 100* if it was possible. Best luck to Harri with his business which he has taken over from Tom Jones, his late grandfather."
Cwestiynau Poblogaidd
Pam ddylwn i ddefnyddio Glanhawr Simdde sydd wedi cymhwyso efo NACS?
Mae Harri wedi cwblhau cwrs hyfforddi trwyadl ac wedi llwyddo mewn asesiad llawn i ddod yn Aelod o NACS (National Association of Chimney Sweeps). Mae ganddo yswiriant dilys ar gyfer glanhau simdde’n unol â Chod Ymddygiad NACS, ac mae’n defnyddio offer o safon broffesiynol sy’n cael ei archwilio yn ystod ei asesiad a’i uwchraddio’n rheolaidd i’r safonau uchaf.
A fydd glanhau fy simdde yn creu llanast?
Mae Harri wedi’i hyfforddi i safon uchel o ran atal llwch ac mae’n cymryd gofal mawr i greu cyn lleied â phosib o lanast. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r broses lanhau yn lân a dan reolaeth. Fodd bynnag, gall amgylchiadau eithriadol – megis ffliw wedi’i blocio oherwydd nyth aderyn – ei gwneud hi’n anodd gwarantu na fydd unrhyw lwch na malurion yn dianc.
Beth ddylwn i wneud i baratoi ar gyfer ymweliad y glanhawr?
Gwnewch yn siŵr bod llwybr clir i’r simdde a digon o le i weithio. Efallai y bydd Harri yn gofyn i chi dynnu addurniadau oddi ar y harth a’r silff ben tân, a chlirio unrhyw ludw, tanwydd, neu falurion o’r grât. Bydd yn dod â chynfasau llwch gydag ef i warchod eich carpedi, lloriau a dodrefn.
A oes angen i mi lanhau fy ffliwiau nwy neu olew?
Oes. Er nad yw’r tanwyddau hyn fel arfer yn cynhyrchu parddu, mae rhwystrau neu broblemau eraill yn medru digwydd. Mae eu glanhau yn helpu iddynt weithio’n briodol, yn atal tân yn y simdde, ac yn lleihau’r peryg o gael eich gwenwyno gan garbon monocsid.
Faint mae o’n costio i mi lanhau fy simdde?
Mae’r gost yn amrywio yn dibynnu ar ba fath o offer neu simdde sydd gennych a’r amser sydd ei angen i gwblhau’r gwaith yn iawn. Cysylltwch â Harri yn uniongyrchol am ddyfynbris cywir.
Pam fod yn rhaid i mi weld y brwsh yn dod allan o ben y simdde?
Mae Harri fel arfer yn dangos y brwsh yn dod allan o’r pot corn i ddangos bod y ffliw wedi cael ei lanhau’n drylwyr o’r gwaelod i’r top.
Dw i newydd symud tŷ – a ddylwn i lanhau fy simdde?
Dylech. Os nad ydych yn siŵr pryd y cafodd y simdde ei glanhau’n broffesiynol ddiwethaf, mae’n bwysig ei glanhau o ran diogelwch ac i gael tawelwch meddwl.
Pa danwydd yw’r gorau i'w ddefnyddio?
Mae hyn yn dibynnu ar eich offer. Os nad oes gofyn am unrhyw danwydd penodol, mae darnau coed wedi’u sychu’n iawn yn ddewis poblogaidd — mae’n lân, yn effeithlon ac yn garbon niwtral. Mae’n well gan rai pobl ddefnyddio glo, ac yn yr achos hwnnw, rydym yn argymell i chi ei brynu gan fasnachwr glo lleol a chymeradwy i gael arweiniad arbenigol. Cofiwch y dylech wastad ystyried rheoliadau parth di-fwg lleol wrth ddewis tanwydd.
Pam ddylwn i lanhau fy simdde cyn iddi gael ei chau?
Os yw parddu yn dal yn y simdde ar ôl iddi gael ei selio, gall fynd yn llaith a ffurfio gweddillion du asidig. Mewn simdde hŷn, gall hyn socian i’r waliau mewnol ac achosi staeniau neu ddifrod difrifol. Mae glanhau’r simdde cyn ei chau yn helpu i stopio’r problemau hyn.
Pam fod yna farciau mwg uwchben fy lle tân?
Gall staeniau mwg fod yn arwydd fod bod mygdarth (fumes) yn gollwng yn ôl i’r ystafell. Gall hyn fod yn arwydd o broblem ddifrifol — cysylltwch â Harri am gyngor ac archwiliad cyn gynted â phosibl.
Mae yna aderyn wedi dod i lawr fy simdde. Sut alla i stopio hyn rhag digwydd eto?
Gall Harri argymell a gosod gard adar neu declyn addas ar gyfer eich simdde i stopio hyn yn y dyfodol.
Fedra i ddibynnu ar Harri am wasanaeth proffesiynol sydd wedi’i yswirio?
Yn bendant. Fel glanhawr NACS, mae Harri yn dilyn cod ymarfer llym, yn cynnal yr offer diweddaraf, ac yn cario yswiriant atebolrwydd cyhoeddus llawn ar gyfer yr holl wasanaethau glanhau simdde.
Cysylltwch â Harri
07949 010027
harrijoneschimneysweep@gmail.com
Gofynnwch i ni eich ffonio yn ôl
