Harri Jones –
Glanhawr Simdde
Mae Harri wedi cymhwyso’n llawn i fod yn aelod o NACS (National Association of Chimney Sweeps). Dechreuodd Harri ddangos angerdd dros lanhau simddeau yn ôl yn 2010 pan ddechreuodd ei ddiweddar daid, a glanhawr simneiau lleol adnabyddus, Tom Jones, a’i dad, Darren (y ddau yn gymwys gyda NACS) lanhau simddeau. Mae Harri wedi magu ei grefft o’r blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth a drosglwyddwyd iddo gan ei deulu.
Mae Harri’n ymfalchïo yn y proffesiynoldeb a’r cyngor arbenigol y gall roi i’w gwsmeriaid gan roi’r hyder iddynt fod eu simdde / stôf wedi cael ei glanhau’n ddiogel wrth ddarparu gwasanaeth glân a diogel, proffesiynol a dibynadwy.

Profiad
Mae yn aelod llawn o NACS gyda chefndir glanhau simddeau sy'n dyddio'n ôl i 2010. Dysgodd y grefft gan ei ddiweddar daid Tom Jones a'i dad Darren, y ddau ohonynt yn lanhawyr NACS uchel eu parch a phrofiadol.
Y Gorau
Mae gan Harri enw da am ddarparu gwasanaeth glân, diogel a dibynadwy, gan ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid ledled y gymuned. Mae’n derbyn adolygiadau cyson gan bobl oherwydd ei gywirdeb a'i broffesiynoldeb yn ei waith a daw ei gwsmeriaid yn ôl ato dro ar ôl tro.
Arbenigwr diwydiant
Gyda blynyddoedd o brofiad ymarferol a chymwysterau NACS ffurfiol, mae Harri yn cynnig cyngor arbenigol ar ddiogelwch simdde a stôf. Mae ei ddealltwriaeth o’r maes, wedi'i adeiladu ar draddodiad teuluol a hyfforddiant proffesiynol, yn sicrhau bod pob tasg yn cael ei chwblhau i'r safon uchaf.