Gwasanaethau
Archwiliadau CCTV
ar eich Simdde
Rydym yn defnyddio systemau camerâu HD i archwilio y tu mewn i ffliw eich simdde gan chwilio am graciau, rhwystrau, a phroblemau strwythurol.
✓ Yn ddelfrydol cyn prynu/gwerthu cartref
✓ Esboniad clir o unrhyw broblemau a welir
✓ Yn tynnu sylw at risgiau tân yn gynnar
Glanhau
Simdde
Tynnu parddu, tar, a malurion i gadw’ch tân yn llosgi’n lân ac yn effeithlon. Mae ein gwasanaeth glanhau yn un heb lanast, i amddiffyn eich cartref.
✓ Gwella perfformiad ac effeithlonrwydd.
✓ Lleihau perygl tân a gwenwyn carbon monocsid.
✓ Dylid ei wneud unwaith y flwyddyn
Gosod Cowls a Giardiau Adar
Pan fo angen, gall Harri osod cowl a giard adar.
✓ Yn eu gosod ar eich cais chi yn unig
✓ Wedi’i addasu’n benodol i anghenion y cwsmer
✓ Rhaid gofyn am hyn yn ychwanegol
Tynnu Nythod
Adar
Rydym yn cymryd gofal wrth gael gwared ar nythod adar a malurion simdde rhag ofn iddynt rwystro’ch ffliw a chreu peryglon tân difrifol.
✓ Wedi’i wneud yn gyfreithiol a heb iddynt ddioddef
✓ Dileu rhwystrau cudd
✓ Yn cynnwys cyngor i atal hyn rhag digwydd eto
Glanhau Pwerus
Brwsh rotari gwaith trwm sy’n clirio’r parddu a’r tar mwyaf anodd i gael gwared ohonynt – yn ddelfrydol ar gyfer simdde sydd wedi’i hesgeuluso ers tro neu sy’n cael defnydd mawr.
✓ Diogel ar bob math o simdde
✓ Pwerus, a dim llanast
✓ Yn cynnwys archwiliad sylfaenol
Tystysgrif Glanhau
Simdde
Cyflwynir tystysgrif N.A.C.S swyddogol i chi bob tro ar ôl glanhau simdde i brofi fod eich simdde wedi’i glanhau a’i gwirio’n broffesiynol.
✓ Dilys ar gyfer yswiriant a rhentu
✓ Tystysgrif Swyddogol NACS
✓ Cyhoeddi ar ôl cwblhau’r gwaith ar gyfer pob cyfarpar
Cwestiynau Poblogaidd
Pam ddylwn i ddefnyddio Glanhawr Simdde sydd wedi cymhwyso efo NACS?
Mae Harri wedi cwblhau cwrs hyfforddi trwyadl ac wedi llwyddo mewn asesiad llawn i ddod yn Aelod o NACS (National Association of Chimney Sweeps). Mae ganddo yswiriant dilys ar gyfer glanhau simdde’n unol â Chod Ymddygiad NACS, ac mae’n defnyddio offer o safon broffesiynol sy’n cael ei archwilio yn ystod ei asesiad a’i uwchraddio’n rheolaidd i’r safonau uchaf.
A fydd glanhau fy simdde yn creu llanast?
Mae Harri wedi’i hyfforddi i safon uchel o ran atal llwch ac mae’n cymryd gofal mawr i greu cyn lleied â phosib o lanast. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r broses lanhau yn lân a dan reolaeth. Fodd bynnag, gall amgylchiadau eithriadol – megis ffliw wedi’i blocio oherwydd nyth aderyn – ei gwneud hi’n anodd gwarantu na fydd unrhyw lwch na malurion yn dianc.
Beth ddylwn i wneud i baratoi ar gyfer ymweliad y glanhawr?
Gwnewch yn siŵr bod llwybr clir i’r simdde a digon o le i weithio. Efallai y bydd Harri yn gofyn i chi dynnu addurniadau oddi ar y harth a’r silff ben tân, a chlirio unrhyw ludw, tanwydd, neu falurion o’r grât. Bydd yn dod â chynfasau llwch gydag ef i warchod eich carpedi, lloriau a dodrefn.
A oes angen i mi lanhau fy ffliwiau nwy neu olew?
Oes. Er nad yw’r tanwyddau hyn fel arfer yn cynhyrchu parddu, mae rhwystrau neu broblemau eraill yn medru digwydd. Mae eu glanhau yn helpu iddynt weithio’n briodol, yn atal tân yn y simdde, ac yn lleihau’r peryg o gael eich gwenwyno gan garbon monocsid.
Faint mae o’n costio i mi lanhau fy simdde?
Mae’r gost yn amrywio yn dibynnu ar ba fath o offer neu simdde sydd gennych a’r amser sydd ei angen i gwblhau’r gwaith yn iawn. Cysylltwch â Harri yn uniongyrchol am ddyfynbris cywir.
Pam fod yn rhaid i mi weld y brwsh yn dod allan o ben y simdde?
Mae Harri fel arfer yn dangos y brwsh yn dod allan o’r pot corn i ddangos bod y ffliw wedi cael ei lanhau’n drylwyr o’r gwaelod i’r top.
Dw i newydd symud tŷ – a ddylwn i lanhau fy simdde?
Dylech. Os nad ydych yn siŵr pryd y cafodd y simdde ei glanhau’n broffesiynol ddiwethaf, mae’n bwysig ei glanhau o ran diogelwch ac i gael tawelwch meddwl.
Pa danwydd yw’r gorau i'w ddefnyddio?
Mae hyn yn dibynnu ar eich offer. Os nad oes gofyn am unrhyw danwydd penodol, mae darnau coed wedi’u sychu’n iawn yn ddewis poblogaidd — mae’n lân, yn effeithlon ac yn garbon niwtral. Mae’n well gan rai pobl ddefnyddio glo, ac yn yr achos hwnnw, rydym yn argymell i chi ei brynu gan fasnachwr glo lleol a chymeradwy i gael arweiniad arbenigol. Cofiwch y dylech wastad ystyried rheoliadau parth di-fwg lleol wrth ddewis tanwydd.
Pam ddylwn i lanhau fy simdde cyn iddi gael ei chau?
Os yw parddu yn dal yn y simdde ar ôl iddi gael ei selio, gall fynd yn llaith a ffurfio gweddillion du asidig. Mewn simdde hŷn, gall hyn socian i’r waliau mewnol ac achosi staeniau neu ddifrod difrifol. Mae glanhau’r simdde cyn ei chau yn helpu i stopio’r problemau hyn.
Pam fod yna farciau mwg uwchben fy lle tân?
Gall staeniau mwg fod yn arwydd fod bod mygdarth (fumes) yn gollwng yn ôl i’r ystafell. Gall hyn fod yn arwydd o broblem ddifrifol — cysylltwch â Harri am gyngor ac archwiliad cyn gynted â phosibl.
Mae yna aderyn wedi dod i lawr fy simdde. Sut alla i stopio hyn rhag digwydd eto?
Gall Harri argymell a gosod gard adar neu declyn addas ar gyfer eich simdde i stopio hyn yn y dyfodol.
Fedra i ddibynnu ar Harri am wasanaeth proffesiynol sydd wedi’i yswirio?
Yn bendant. Fel glanhawr NACS, mae Harri yn dilyn cod ymarfer llym, yn cynnal yr offer diweddaraf, ac yn cario yswiriant atebolrwydd cyhoeddus llawn ar gyfer yr holl wasanaethau glanhau simdde.
Cysylltwch â Harri
07949 010027
harrijoneschimneysweep@gmail.com
Gofynnwch i ni eich ffonio yn ôl
